Ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i Lofruddiaeth Ethan Ives
Автор: North Wales Police
Загружено: 2025-10-03
Просмотров: 258
Описание:
Llofruddiwyd Ethan Ives-Griffiths, bachgen dwy flwydd oed o Sir y Fflint, gan ei nain a'i daid.
Gwnaeth ei fam ddim i atal y peth.
Cafodd Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, ill dau o Ffordd Kingsley, Garden City, Glannau Dyfrdwy, eu dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Gwener 3 Hydref i oes o garchar hefo cyfuniad o 40 mlynedd am lofruddiaeth.
Cafodd Shannon Ives, 28, o Mornant Avenue, Prestatyn, ei charcharu am 12 mlynedd am ganiatáu marwolaeth ei mab.
Dyma rannu'r stori lawn am ymchwiliad manwl Tîm Ymchwiliadau Difrifol yr Heddlu i'r digwyddiadau a arweiniodd at lofruddiaeth Ethan ym mis Awst 2021.
Hoffem fynd â chi trwy stori gyfan yr achos torcalonnus hwn i dynnu sylw at lefel y gofal, yr ymrwymiad, y manylder a'r ymroddiad a roddwyd gan y tîm ymchwilio.
Treuliodd swyddogion fisoedd yn casglu tystiolaeth hanfodol, siarad â nifer o dystion, arbenigwyr meddygol a gwylio cannoedd o oriau o luniau teledu cylch cyfyng o gartref Ives i sicrhau eu bod yn gallu rhoi'r ffeithiau at ei gilydd am yr hyn a ddigwyddodd i Ethan.
Mae wedi bod yn achos cymhleth a sensitif, ac yn anodd ei ddilyn.
Cewch ddarllen mwy am y ddedfryd heddiw yma ➡️ https://orlo.uk/Lx9En
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: