Hon - T.H. Parry-Williams (A*Seren)
Автор: ASerenCymru
Загружено: 2011-11-12
Просмотров: 8891
Описание:
Diolch i Tom Rhys Harries
www.a-seren.com
'Hon'
Gan T.H. Parry-Williams
Beth yw'r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap
Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn.
A phwy sy'n trigo'n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi
 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o'r rhain, heb Gymru, i'w cael yn y byd.
Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grŵn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.
Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a'i llên,
Yn ôl i'm cynefin gynt, a'm dychymyg yn drên.
A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau'r eithafwyr oll.
Dyma'r Wyddfa a'i chriw; dyma lymder a moelni'r tir;
Dyma'r llyn a'r afon a'r clogwyn; ac, ar fy ngwir,
Dacw'r tŷ lle'm ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne'
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.
Rwy'n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai'n dod drosof i;
Ac mi glywaf grafangau Cymru'n dirdynnu fy mron.
Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: