PÊL-DROED BYW: Caernarfon v Bae Colwyn | Rownd Wyth Olaf Cwpan Cymru JD | Sylwebaeth Gymraeg
Автор: Sgorio
Загружено: 2026-01-31
Просмотров: 877
Описание:
Pêl-droed byw o rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD rhwng Caernarfon a Bae Colwyn.
Sgorio yn fyw am 5.00, gyda'r gic gyntaf am 5.15 ⚽️
Yn un o gemau mwyaf y penwythnos bydd dau o glybiau’r uwch gynghrair yn cyfarfod ar Barc Maesdu, a’r ddau glwb yn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm.
Dyw Caernarfon na Bae Colwyn erioed wedi codi Cwpan Cymru, ac mae’n bosib na ddaw cyfle gwell am amser maith wrth ystyried cryfder y clybiau sydd eisoes wedi cael eu gyrru allan o’r gystadleuaeth.
Y daith hyd yma:
Caernarfon: Y Drenewydd (0-3), Penrhyncoch (4-0), Met Caerdydd (2-4)
Bae Colwyn: Bae Cinmel (5-0), Caerfyrddin (1-3), Pontypridd (0-3)
Mae Caernarfon wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar bump achlysur yn y gorffennol, ond erioed wedi camu i’r rownd derfynol, a dyna fydd y nod eleni.
Dyw Bae Colwyn erioed wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD chwaith, ac mae gan y Gwylanod gyfle gwirioneddol i wireddu’r freuddwyd y tymor yma.
Mae’r clybiau eisoes wedi cyfarfod deirgwaith y tymor hwn, gyda Chaernarfon yn ennill o 3-0 yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG ym mis Awst, ond Bae Colwyn oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y timau yn rhan gynta’r tymor.
Mae Bae Colwyn wedi osgoi clybiau’r Cymru Premier JD yn y gwpan hyd yma, ond bu rhaid i Gaernarfon drechu Met Caerdydd yn y rownd ddiwethaf.
Bydd y Cofi Army yn disgwyl perfformiad o safon gan eu blaenwr newydd, Brad Young, sydd heb sgorio yn ei ddwy gêm ers ymuno â Chaernarfon ar ddechrau’r mis.
Mae Bae Colwyn ar rediad o dair gêm heb ennill, tra bod Caernarfon m’ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf, ond daeth y golled honno yn erbyn Bae Colwyn ar Barc Maesdu ym mis Rhagfyr.
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: