Afonydd Iach - Pren marw
Автор: Natural Resources Wales / Cyfoeth Naturiol Cymru
Загружено: 2025-05-20
Просмотров: 20
Описание:
Un tro, roedd tirwedd Cymru wedi’i gorchuddio â choed, ac oherwydd hynny byddai darnau mawr o bren yn naturiol doreithiog yn ein hafonydd. Bellach mae llai o goed a llai o bren marw yn y rhan fwyaf o afonydd.
Mae darnau mawr o bren yn chwarae rhan hanfodol yn iechyd ein hafonydd. Mae’n amrywio’r llif ac yn creu amrywiaeth o gynefinoedd. Mae’n glanhau graean ac yn cynnig lloches i bysgod ac anifeiliaid eraill, gan wella’r cynefin i fywyd gwyllt.
Gall darnau mawr o bren, yn y lle cywir, arafu llif y dŵr mewn glaw trwm. Mae afon sydd â llawer o bren hefyd yn dal silt, a hynny’n gwella ansawdd y dŵr ac yn helpu’r afon i ymddwyn mewn ffordd fwy naturiol.
Rydyn ni’n gweithio gyda thirfeddianwyr i gynyddu’r pren sydd yn ein hafonydd. Bydd hyn yn helpu ein hafonydd i ymdopi’n well ag effeithiau newid hinsawdd
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: