Deliwr cyffuriau a geisiodd ffoi rhag yr heddlu mewn ymlid drwy'r Barri wedi ei ddedfrydu
Автор: Heddlu De Cymru | South Wales Police
Загружено: 2026-01-29
Просмотров: 26
Описание:
Mae deliwr cyffuriau o'r Barri a geisiodd ffoi rhag yr heddlu mewn ymlid ar gyflymder drwy'r dref – dan ddylanwad canabis – wedi cael ei garcharu.
Cafodd Jack Finch, 19 oed, ei weld gan swyddogion ar batrôl yn ystod oriau mân fore ddydd Llun, 17 Tachwedd. Gwnaethant roi arwydd iddo stopio, ond gyrrodd i ffwrdd.
Yn fuan wedyn, gwnaeth swyddog plismona'r ffyrdd barhau â'r ymlid, ac yr hyn a ddilynodd oedd ymlid peryglus drwy'r Barri, lle gyrrodd Finch ar gyflymder o 80mya mewn parthau 20mya yn ogystal â gyrru y ffordd anghywir o gwmpas cylchfannau. Ar un adeg, methodd gyrrwr arall o drwch blewyn.
Ar ôl tua deg munud, rhoddodd Finch orau i geisio ffoi, gan stopio'r car a chwifio ei ddwylo allan o'r ffenestr ar ochr y gyrrwr.
Cynhaliodd y swyddogion brawf cyffuriau ar ochr y ffordd, a gadarnhaodd bod Finch o dan ddylanwad canabis.
Atafaelwyd bag Gucci a oedd yn cynnwys cocên gwerth £13k, cloriannau digidol, arian parod a bat pêl-fas o'i gar.
Cafodd bron £10k mewn arian parod, canabis bud a deg bag o gwcis a oedd yn cynnwys canabis eu hatafaelu hefyd.
Daeth swyddogion o hyd i dystiolaeth glir o ffonau delio cyffuriau a oedd yn gysylltiedig ag ef.
Cafodd ei gyhuddo o fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ymwneud â chyflenwi cocên, ymwneud â chyflenwi canabis, caffael eiddo troseddol – sef arian, gyrru car yn beryglus, gyrru car heb drwydded, gyrru heb yswiriant, a gyrru tra roedd mewn cyflwr anaddas drwy gyffuriau.
Aeth ymlaen i bledio'n euog, a chafodd ei ddedfrydu i 32 mis mewn Sefydliad i Droseddwyr Ifanc yn Llys y Goron Caerdydd ar 14 Ionawr.
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: