Ynys - Newid
Автор: S4C Miwsig
Загружено: 2022-08-26
Просмотров: 1686
Описание:
YNYS yw proseict unigol Dylan Hughes, gynt o'r band seicadelig Race Horses. Cafodd ei gân ddiweddaraf, "Newid", ei ddylanwadu gan gasgliad amlgyfrannog jazz Etheopiaidd, gyda Mulatu Astatke, The Byrds a Ennio Morricone yn ddylanwadau penodol eraill. Mae o am bobl a lleoliadau'n newid, gyda adeiladwaith hyll modern yn aml yn cymryd lle sefydliadau annibynnol a diwylliannol bellach yn y byd sydd ohoni. Fideo gan Ren Faulkner.
GEIRIAU:
Dala lan yn yr oriau man
Chwarae sŵn y gwynt â'r glaw
A thalu'r arian mawr am freuddwydion, fel o'n i arfer cael.
Sgerbwd adeiladau tal
Diolch am eich adborth chi
Eisteddwch i lawr, mae ychydig o newyddion da fi.
Fi'n sylwi ar y ffordd ni’n newid
A does dim byd yn aros yr un peth,
Datod y clymau, a thorra ni'n ddarnau
A fi’n sefyll yn yr adfeilion, beth yn y, beth yn y byd.
Hysbysebion sydd yn datgan
Cynlluniau anferth sydd yn dod yn fuan iawn Paid gadael i nhw ennill,
Na thorri dy ysbryd di.
Fi'n sylwi ar y ffordd ni’n newid
A does dim byd yn aros yr un peth,
Datod y clymau, a thorra ni'n ddarnau
A fi’n sefyll yn yr adfeilion, beth yn y, beth yn y byd.
Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴
New Welsh music and contemporary culture 🏴
Gwasga'r botwm 'Subscribe'
TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: