Ar Goll ♥ (Lost) ~Laura Simpson~ (Original Welsh Song-Ukulele)
Автор: Laura Simpson
Загружено: 2015-05-08
Просмотров: 1734
Описание:
Dw i di mentro sgwenu can bach Cymraeg syml- tro cyntaf i mi drio.
I've ventured to write a simple Welsh song.
Mwynhewch/Enjoy :D
AR GOLL♥
Geiriau/Words:
Dw i'n aros yma amdana chdi,
Ac mae'r haul ar goll o dan y cwmwl du,
Ti yw'r haul sy'n gwawrio nydd,
A chdi di'r un sydd yno i mi.
Cytgan-
Ar goll,ar goll,yn aros amdana chdi,
Ar goll,ar goll, nes i ti fy achub i,
Ar goll,ar goll,yn y storm mawr cryf,
Ar goll,ar goll, ond ti di fy achub i.
Dw i'n gweld dy wyneb yn fy mreuddwyd i,
Dw i'n gweld o'n glir,dw in gweld o'n wir,
Pryd ddoi di eto? Pryd ddoi di'n ôl?
Mae'r hiraeth yn bur, mae'r hiraeth yn ffôl.
Cytgan
Mae'r dyddiau'n hir, mae'r dyddiau'n faith,
Hebdda chdi wrth fy ochr,mae hi'n goblyn o daith,
Ond dw i'n gwbod ddoi di'n ôl,dw i'n gwbo ddoi di'n ngweld,
Mae cariad yn cryfhau, ac mae'n hybu pob serch.
Cytgan
A dw i'n gwbod dy fod ti yno i mi,
A dw i'n gwbod dy fod di'n fy ngharu,
A dw i'n edrych ymlaen i dy weld o hyd,
Ac yn gwybod fy mod i'n dy garu.
Cytgan
Ond ti di fy achub i x2
Повторяем попытку...
Доступные форматы для скачивания:
Скачать видео
-
Информация по загрузке: