ycliper

Популярное

Музыка Кино и Анимация Автомобили Животные Спорт Путешествия Игры Юмор

Интересные видео

2025 Сериалы Трейлеры Новости Как сделать Видеоуроки Diy своими руками

Топ запросов

смотреть а4 schoolboy runaway турецкий сериал смотреть мультфильмы эдисон
Скачать

Bwncath - Castell Ni (gydag ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon)

Автор: Bwncath

Загружено: 2024-07-05

Просмотров: 20442

Описание: Yn ôl yn 2020, mi gymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu cân yn seiliedig ar atebion y plant i gwestiynau ynglŷn â’u teimladau am hanes Caernarfon gan ganolbwyntio ar y Castell. Uchafbwynt y prosiect gwreiddiol oedd mynd i Gastell Caernarfon i berfformio’r gân ar y cyd.

Ar ôl y cyfnod clo, daeth cyfle i ymestyn y prosiect ymhellach wrth i’r band ddechrau ar y broses o recordio’r gân yn stiwdio Sain. Wedi hyn, yn 2023 rhoddwyd gwahoddiad i holl blant ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon ddod i recordio’r gân yn Ysgol Syr Hugh Owen. Y tro hwn, daeth dros 400 o ddisgyblion o Ysgol Bontnewydd, Y Gelli, yr Hendre, Maesincla, Rhosgadfan, Rhostryfan a Santes Helen i gyd-ganu.

I gloi'r prosiect gwahoddwyd y plant i berfformio’r gân dros yr aber gyferbyn a’r castell yng Nghaernarfon ar fore'r Ŵyl Fwyd ym mis Mai eleni, gan ffilmio'r cyfan er mwyn creu fideo i gyd-fynd a rhyddhau’r recordiad. Cafwyd profiad bendigedig o recordio’r fideo gyda chymorth a chefnogaeth athrawon a rhieni’r plant.

Cerddoriaeth
Bwncath ac ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon

Cyfarwyddwr a Golygydd
Jamie Walker

Camera
Hedydd Ioan

Gyda diolch i
Ysgol Bontnewydd
Ysgol Y Gelli
Ysgol yr Hendre
Ysgol Maesincla
Ysgol Rhosgadfan
Ysgol Rhostryfan
Ysgol Santes Helen
Gŵyl Fwyd Caernarfon
Ysgol Syr Hugh Owen

Label
Sain Recordiau

Cynhyrchydd
Robin Llwyd

Geiriau
Yma mae 'nghalon yn curo
Ac yma 'dw i'n troedio y stryd,
Dyma fy lle
Yma'n y dre’,
Dyma ganol fy myd.

Yma ma'n ffrindiau a'n nheulu
A ninnau'n un teulu i gyd,
Dyma fy llef
I bawb yn y dref;
Dewch i ganu ynghyd.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.

Ac ambell i dro fydda’ i'n cofio
Am boen yr holl frwydro a fu,
Ond dysgu a wnawn,
Defnyddiwn ein dawn
I ailgynnau ein ffydd.

Ac yna fe godwn ein tyrrau,
Agorwn ein drysau i'r byd,
Mae croeso’n y dre
I bawb o bob lle,
Dewch i ganu ynghyd.

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
yn awr yn gastell i ni.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.
O caraf, mi garaf Caernarfon,
O mor werthfawr yw hi,
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi.

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
yn awr yn gastell i ni.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.
O caraf, mi garaf Caernarfon,
O mor werthfawr yw hi,
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi.

Llywelyn Elidyr Glyn

Не удается загрузить Youtube-плеер. Проверьте блокировку Youtube в вашей сети.
Повторяем попытку...
Bwncath - Castell Ni (gydag  ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon)

Поделиться в:

Доступные форматы для скачивания:

Скачать видео

  • Информация по загрузке:

Скачать аудио

Похожие видео

Sgenai'm Mynadd

Sgenai'm Mynadd

Bwncath - Allwedd (fersiwn Hunan-Ynysu ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau!)

Bwncath - Allwedd (fersiwn Hunan-Ynysu ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau!)

Timeless Vintage Romance | Etta James Style

Timeless Vintage Romance | Etta James Style

Почему ДНК литовцев шокировало ученых? Тайна их происхождения

Почему ДНК литовцев шокировало ученых? Тайна их происхождения

ŠLĀGERDZIESMAS NONSTOP | LATVIEŠU HITI DVĒSELEI | LAI SKAN

ŠLĀGERDZIESMAS NONSTOP | LATVIEŠU HITI DVĒSELEI | LAI SKAN

Bryn Fôn a’r Band – Eisteddfod Gudd

Bryn Fôn a’r Band – Eisteddfod Gudd

Profiad BYTHGOFIADWY yn canu gyda Elidyr Glyn o Bwncath | Canu Gyda Fy Arwr | S4C

Profiad BYTHGOFIADWY yn canu gyda Elidyr Glyn o Bwncath | Canu Gyda Fy Arwr | S4C

Sesiwn Tŷ: Bwncath - Aberdaron

Sesiwn Tŷ: Bwncath - Aberdaron

Почему венгры не понимают ни одного соседа? | Полная история Венгрии.

Почему венгры не понимают ни одного соседа? | Полная история Венгрии.

Y Gwerinwr

Y Gwerinwr

C h r i s R e a Greatest Hits 🎵 Billboard Hot 100 🎵 Popular Music Hits Of All Time

C h r i s R e a Greatest Hits 🎵 Billboard Hot 100 🎵 Popular Music Hits Of All Time

Bwncath - Haws i'w Ddweud

Bwncath - Haws i'w Ddweud

Русский рок. Сборник клипов

Русский рок. Сборник клипов

ДНК Литвы: Они НЕ Славяне и НЕ Германцы! Страшная правда о происхождении Литовцев.

ДНК Литвы: Они НЕ Славяне и НЕ Германцы! Страшная правда о происхождении Литовцев.

Bwncath | Barti Ddu

Bwncath | Barti Ddu

Angel ar fy Ysgwydd

Angel ar fy Ysgwydd

Yma Wyf Inna I Fod - Elidyr Glyn

Yma Wyf Inna I Fod - Elidyr Glyn

Зачем советские моряки СБРОСИЛИ бушлаты в −15°C ?  Немцы ОНЕМЕЛИ от ужаса

Зачем советские моряки СБРОСИЛИ бушлаты в −15°C ? Немцы ОНЕМЕЛИ от ужаса

Открытие Варбурга: 4 переключателя, которые мешают раку расти | Здоровье с Доктором

Открытие Варбурга: 4 переключателя, которые мешают раку расти | Здоровье с Доктором

Chris Rea - Driving Home For Christmas (Rittersgrün  - Fichtelberg Video) 12.12.2024

Chris Rea - Driving Home For Christmas (Rittersgrün - Fichtelberg Video) 12.12.2024

© 2025 ycliper. Все права защищены.



  • Контакты
  • О нас
  • Политика конфиденциальности



Контакты для правообладателей: [email protected]